Newyddion

Ymateb Mentrau Iaith Cymru i Ddatganiad y Prif Weinidog ar y Gymraeg

Mae Mentrau Iaith Cymru yn croesawu’r cyhoeddiadau o gefnogaeth ychwanegol tuag at y Gymraeg a wnaed heddiw gan y Prif Weinidog ar lawr y Senedd.  Mae’r adnoddau ychwanegol i hybu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned yn galonogol, ac mae Mentrau Iaith Cymru yn gweld hwn fel cam pwysig ymlaen tuag at gynyddu’r buddsoddiad yn y Gymraeg dros y tymor hir.

 

Yn ystod ei ddatganiad fe ddywedodd y Prif Weinidog bod “gwaith y Mentrau Iaith yn hollbwysig” fel mudiadau sy’n gweithredu i gryfhau’r Gymraeg yn eu cymunedau.  Mae’r Prif Weinidog hefyd yn cyfaddef bod y Gymraeg yn dal i wynebu “heriau anodd a chymhleth.”

 

Mewn ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog dywedodd llefarydd ar ran Mentrau Iaith Cymru: “rydyn ni’n croesawu’r hyn a ddywedwyd gan y Prif Weinidog heddiw.  Mae ei sylwadau yn cadarnhau bod y Mentrau Iaith yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol y Llywodraeth”  Ychwanegodd “cytunwn hefyd  a’r Prif Weinidog fod y Gymraeg yn wynebu heriau difrifol a niferus sy’n ymwneud â phob agwedd ar fywyd cymunedol, ac mae angen i’r gefnogaeth a’r buddsoddiad yn y Gymraeg barhau a thyfu dros y tymor hir er mwyn cryfhau seiliau’r iaith yn ein cymunedau.”

 

Mae datganiad y Prif Weinidog yn dilyn sawl adroddiad ac ymgynghoriad a gynhaliwyd dros y 18 mis diwethaf mewn perthynas â’r iaith Gymraeg, gan gynnwys adroddiad a gomisiynwyd gan y Llywodraeth ar waith y Mentrau Iaith.  Yn eu hymateb cyhoeddus i’r adroddiad hwnnw a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2014 mae’r Mentrau Iaith yn datgan eu gweledigaeth a’u hawydd i ddatblygu a chryfhau er mwyn ehangu ar eu gwaith o hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith gymunedol, gan nodi bod angen £4.8m arnynt dros y tair blynedd nesaf.  Ychwanegodd llefarydd y Mentrau “rydym yn ystyried y datganiadau a wnaed gan y Prif Weinidog heddiw – gan gynnwys datganiad o gyllid ychwanegol o £750,000 i’r Mentrau Iaith dros y ddwy flynedd nesaf – fel camau cyntaf holl bwysig y mae angen i’r Llywodraeth eu cymryd tuag at weithredu’n gadarn er budd y Gymraeg ac mae’r Mentrau eisiau parhau i chwarae rhan ganolig yn y broses o ddatblygu seiliau cryfach i’r Gymraeg yn y dyfodol.”

 

17 Mehefin, 2014

Hysbyseb Swydd: Swyddog Ieuenctid Cymunedol

Mae Menter Iaith Abertawe yn chwilio am Swyddog Ieuenctid Cymunedol i ddarparu gwaith ieuenctid cyfrwng Cymraeg yn Abertawe.

Cytundeb – Parhaol (tra bwriedir i’r swydd fod yn un barhaol, mae cyfnod y swydd hon yn gwbl ddibynnol ar gyllid/ariannu.)

Cyflog – £21, 422.10

Llawn Amser – 37 awr yr wythnos (oriau hyblyg).  Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus weithio gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Dyddiad cau: Hanner dydd ar 20.06.2014

Am fwy o fanylion e-bostiwch: elgan@menterabertawe.org neu ffoniwch 01792 460906 er mwyn siarad gyda Rheolwr y Fenter – Elgan Davies-Jones.

9 Mehefin, 2014

Cyfle am swydd – Swyddog Busnes

menter iaith sir y fflint

Swyddog Busnes

Menter Iaith Sir y Fflint

Swydd Rhan Amser (22.2 awr yr wythnos)

Cyflog:£21,067 -£21,374 pro rata + cyfrannau pensiwn

Lleoliad: Y Wyddgrug a Wrecsam

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd yma

Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn gweithio mewn partneriaeth a Menter Iaith Maelor er mwyn hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Iaith Gymraeg yn Siroedd y Fflint a Wrecsam.

Mi fydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyllid a gweinyddol arbennig er mwyn cynorthwyo’r Rheolw’r a’r timau perthnasol i weinyddu system cyllid tryloyw a chadarn. Mae’r swydd hon yn swydd rhan amser wedi’i hariannu gan Uned y Gymraeg, Llywodraeth Cymru.

Dyddiad Cau: Hanner Dydd – Dydd Gwener 25ain o Ebrill 2014

Dyddiad Cyfweliadau:2il Mai 2014

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gill Stephen – Rheolwr Mentrau Iaith Sir y Fflint a Maelor ar 10352 744040 neu e-bostiwch gill@menteriaithsiryfflint.co.uk

28 Mawrth, 2014

Mentrau Iaith yn Galw am Hwb Ariannol

logo MIC du+gwyn

Mae’r Mentrau Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi lefel realistig o arian i sicrhau y gall elfennau allweddol o Strategaeth Iaith Gymraeg y Llywodraeth cael ei wireddu.

Mae’r Mentrau Iaith yn gweithredu ledled Cymru, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.

Mae’r alwad am adnoddau ychwanegol yn dilyn cyhoeddi adroddiad ar eu gwaith a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, a ganfu y dylai’r cyfraniad sylweddol a wneir gan y Mentrau barhau ac ehangu, ond nad oes digon o adnoddau gan y Mentrau ar hyn o bryd – ac maent yn rhy fach i allu cyflawni’r canlyniadau pellgyrhaeddol sydd eu hangen i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg.

Mae Penri Williams, Cadeirydd Mentrau Iaith Cymru, yn esbonio pam fod angen y buddsoddiad: “yng Nghymru mae gennym system addysg a phrosiectau niferus sydd i gyd yn cyfrannu at gynhyrchu siaradwyr Cymraeg, ond ar yr un pryd ni ellir peidio â buddsoddi yn y cyfleoedd ac ymyraethau sy’n hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned. Mae’r Mentrau’n darparu gwasanaethau a gweithgareddau mae siaradwyr Cymraeg wir yn mwynhau defnyddio.” Ychwanegodd: “Fel y cyfryw, mae gwaith y Mentrau yn cyfrannu’n dda at ddymuniad y Prif Weinidog i weld cynnydd yn y defnydd o’r Gymraeg”.

“Mae’r adroddiad yn cadarnhau’r hyn yr ydym wedi gwybod ers blynyddoedd lawer, er bod gan y Mentrau rôl hanfodol i’w chwarae wrth hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg , nid ydynt wedi cael digon o adnoddau am lawer rhy hir.”

“Rydym yn cydnabod yn llawn ein bod ni’n wynebu hinsawdd economaidd anodd ar hyn o bryd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod hefyd bod yr iaith Gymraeg yn wynebu heriau difrifol. Mae’n bodoli ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd. Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol.”

Mae’r adroddiad yn cael ei gyhoeddi ar adeg pan fo’r Llywodraeth yn wynebu beirniadaeth nad yw wedi ymateb yn ddigonol i ganlyniadau’r Cyfrifiad a’i digwyddiad ‘Y Gynhadledd Fawr’, lle arweiniodd y Prif Weinidog drafodaeth am ddyfodol yr iaith.

Ychwanegodd Penri Williams: “Byddai ymateb cadarnhaol i’r adroddiad hwn yn rhoi hwb angenrheidiol i’r Mentrau ac felly i’r Gymraeg yn ein cymunedau. Mae’n gyfle i’r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru i weithredu’n gyflym i ddangos cefnogaeth i’r iaith”.

Mae’r Mentrau yn galw am gyllid o £4.8m gan Llywodraeth Cymru, sydd tua 16c yr wythnos i bob siaradwr Cymraeg. Mae’r Mentrau hefyd yn galw am fuddsoddiad pellach gan eu Hawdurdodau Lleol ar draws Cymru yn y dyfodol agos wrth i’r Safonau Iaith ddod i rym.

“Mae hyn yn wir, yn gynnydd sylweddol”, ychwanegodd Mr Williams, “yn enwedig yn ystod cyfnod o galedi ariannol. Fodd bynnag, mae’r cynnydd yn dod o ganlyniad i danfuddsoddi sylweddol yn y Mentrau Iaith dros nifer o flynyddoedd. Gyda’r heriau a amlygwyd gan y Cyfrifiad, mae’r amser wedi dod i fuddsoddi “.

21 Mawrth, 2014

Hysbyseb Swydd: Swyddog Maes Cynorthwyol

Newyddion

MENTER IAITH SIR Y FFLINT
(6 mis efo’r posibiliad o barhad)
£12,141.00 (pro rata)
37 awr yr wythnos
Lleoliad: Yr Wyddgrug
Dyddiad Cau Dydd Gwener 27/06/2014
Mae Menter Iaith Sir y Fflint yn chwilio am Swyddog Maes Cynorthwyol i drefnu a chefnogi gweithgareddau i hybu a hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y Sir. Bydd y person a benodir yn gyfrifol am ddatblygu a chefnogi amrywiaeth o brosiectau cymunedol fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Mae’r gallu i ryngweithio a gweithio’n annibynnol yn bwysig. Swydd wedi’i hariannu trwy Gronfa Twf Swyddi Cymru yw hon, cynllun ar gyfer pobl ifanc rhwng 18 a 24 oed.
Am sgwrs anffurfiol, mwy o wybodaeth neu i wneud cais cysylltwch â:
Gill Stephen (Prif Swyddog) ar 01352 744040 neu gill@MISYFF.co.uk
Menter Iaith Sir y Fflint
Corlan, Uned 3, Parc Busnes Yr Wyddgrug, Stryd Wrecsam,
Yr Wyddgrug, Sir y Fflint. CH7 1XP
www.mentrauiaith-gogledd.com

12 Mehefin, 2014

Pobl Ledled Cymru yn Datgan eu Cefnogaeth i’r Mentrau Iaith

cyflwyno deiseb - mentrau iaith

Yn ystod y mis diwethaf mae dros 1,800 o bobl wedi datgan eu cefnogaeth i waith y Mentrau Iaith trwy lofnodi deiseb a gyflwynwyd i bwyllgor deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw.

Mae’r Mentrau Iaith yn fudiadau cymunedol sy’n gweithredu ledled Cymru, gan ddarparu ystod eang o gyfleoedd i blant, pobl ifanc, oedolion a dysgwyr i ddefnyddio’r Gymraeg.

Fe gyflwynwyd y ddeiseb gan y mudiad Dyfodol i’r Iaith mewn ymateb i’r adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caerdydd am waith y Mentrau yn gynharach eleni a ganfu y dylai gwaith pwysig y Mentrau barhau a datblygu. Ond ar hyn o bryd nid yw’r Mentrau’n cael eu hariannu’n deg nac yn ddigonol i weithredu i’w potensial llawn.

Mae’r Mentrau’n galw am fuddsoddiad o £4.8m fydd yn eu galluogi i weithredu’n fwy dwys yn eu cymunedau, i ddatblygu cynlluniau strategol i gryfhau’r Gymraeg yn eu hardaloedd, i ddatblygu eu staff ac i annog arloesi er mwyn ehangu eu gwaith i feysydd newydd er budd y Gymraeg.

Dywedodd Meirion Davies, llefarydd ar ran y Mentrau “Rydym yn falch iawn bod Dyfodol i’r Iaith, a chymaint o unigolion ar draws Cymru, wedi dangos eu cefnogaeth i’r Mentrau trwy’r ddeiseb hon. Mae hyn yn rhoi neges glir i Lywodraeth Cymru ynglŷn â’r gefnogaeth sydd gan bobl ledled Cymru tuag at waith eu Mentrau Iaith lleol. Mae pobl am weld y Mentrau yn cryfhau a datblygu er mwyn gweithredu’n fwy dwys er budd y Gymraeg yn eu cymunedau, ac mae angen buddsoddiad pellach yn eu gwaith iddyn nhw allu gwneud hynny.”

Mae Mr Davies yn esbonio bod y Mentrau am glywed mwy am gynlluniau Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog i gryfhau’r Gymraeg yn gymunedol: “Mae strategaeth iaith y Llywodraeth, Iaith Fyw: Iaith Byw, yn datgan bod y Llywodraeth am weld y Gymraeg yn ffynnu, a chynnydd yn y nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn ei defnyddio. Mae gweledigaeth a gwaith y Mentrau yn cefnogi’r weledigaeth honno, ac yn dilyn nifer o ymgynghoriadau, gan gynnwys Y Gynhadledd Fawr y llynedd, mae’r amser wedi dod i gymryd camau clir a phendant i gryfhau a chefnogi’r Gymraeg yn ein cymunedau. Byddai ymateb gadarn gan y Prif Weinidog i gais y Mentrau am fuddsoddiad teg yn eu gwaith yn gam pwysig y gall Llywodraeth Cymru a’r Prif Weinidog ei wneud er mwyn dangos eu cefnogaeth i’r Gymraeg.”

“Rydym yn cydnabod yn llawn ein bod ni’n wynebu hinsawdd economaidd anodd, ond ar yr un pryd mae rhaid inni gydnabod bod y Gymraeg yn wynebu heriau difrifol. Mae’n bodoli ochr yn ochr ag un o’r ieithoedd mwyaf dylanwadol yn y byd. Os yw’r Gymraeg yn colli tir fel iaith ein teuluoedd, ein cymunedau a’n pobl ifanc fe fyddai hi’n anodd iawn, os nad yn amhosib, i’w hadennill yn y dyfodol. Mae pobl Cymru wedi ymateb yn gadarn i’n cais am eu cefnogaeth ac mae’n bryd nawr i’n Llywodraeth ni ymateb yn gadarnhaol i’r angen a’r galw am gefnogaeth i’r Mentrau Iaith ac i’r Gymraeg.”

Am ragor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad hwn i’r wasg cysylltwch ag Emily Cole ar 01443 493715 emily@Mentrauiaith.org

Am y Mentrau Iaith
• 22 Menter Iaith ar draws Cymru
• Dros 300 o aelodau staff
• 1,300 o wirfoddolwyr
• 13,000 o weithgareddau bob blwyddyn
• 160,000 o gyfranogwyr bob blwyddyn
• Mae’r Mentrau ar draws Cymru yn weithredol mewn sawl maes, gan gynnwys datblygu economaidd, Mentrau cymdeithasol, gwasanaethau i deuluoedd, gwasanaethau gofal a chwarae, gwasanaethau ieuenctid, cyfieithu cymunedol, addysg gymunedol, y celfyddydau a threftadaeth.

3 Ebrill, 2014

Hysbyseb Swyddi

llun soar

Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful

2 Swydd Rhan Amser

Swyddog Cyllid (10.5 awr yr wythnos)

Gofalwr a Derbynydd (25 awr yr wythnos)

Am fanylion pellach a ffurflen gais cysylltwch â Lisbeth McLean
Canolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful, Canolfan Soar, Pontmorlais, Merthyr Tudful CF47 8UB
01685-722176/ lis@merthyrtudful.com
Dyddiad Cau 11 Ebrill 2014

Mae’r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer y cyfleoedd swyddi yng Nghanolfan a Menter Gymraeg Merthyr Tudful sy’n gweithredu gwasanaethau drwy’r Gymraeg a’r Saesneg.

28 Mawrth, 2014

Cyfres ddrama newydd ar S4C

35 Diwrnod
9.00pm, 23ain o Fawrth

Corff, cyfrinachau, a llond stâd o amheuon. Cyfres ddrama newydd lle mae bob diwrnod yn cyfrif.

Cyfres ddrama ddirgelwch dwys o fath newydd sbon, fydd yn rhoi bywyd yn swbwrbia dan y chwyddwydr.

Mae’r gyfres yn dechrau gyda chorff Jan Richards yn ei chartref ar ystâd o dai moethus. Ar unwaith, ‘ry ni’n cael ein taflu yn ôl 35 diwrnod, i’r dydd mae Jan yn symud i’r ystâd. O’r diwrnod hwnnw tan ei marwolaeth, 35 diwrnod yn ddiweddarach, byddwn yn datgloi ei gorffennol a beth oedd hi’n gwneud ar ystâd Crud yr Awel.

19 Mawrth, 2014